
Mae PlanET Health Cymru (Cynllunio ar gyfer yr Amgylchedd, Cludiant ac Iechyd yng Nghymru) yn borth gwybodaeth i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn amrywiaeth o sectorau ar faterion trawsbynciol sy’n gysylltiedig â’r amgylchedd ac iechyd.
Mae Planet Health Cymru yn ‘siop un stop’ i gynorthwyo cydweithio ac mae’n cynnwys gwybodaeth, offer, dogfennau ac enghreifftiau o arferion cyfredol allweddol a ddefnyddir gan ymarferwyr sy’n gweithio ym meysydd cynllunio, trafnidiaeth, dylunio trefol, datblygu, pensaernïaeth, iechyd y cyhoedd yn ogystal ag unrhyw un sy’n gyfrifol am wella iechyd y genedl.
Mae tystiolaeth gynyddol yn cael ei chyhoeddi ar y berthynas rhwng dylunio a datblygu’r amgylchedd adeiledig a’r amgylchedd naturiol ac iechyd. Edrychir ar fesurau i hyrwyddo a chreu amgylcheddau sy’n annog gweithgaredd corfforol, bwyta’n iach a lles er mwyn gwella iechyd y genedl.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi dod yn fwyfwy amlwg bod:
“Angen i weithwyr proffesiynol ym meysydd iechyd a’r amgylchedd adeiledig ddod ynghyd ar fyrder i ymateb i’r heriau yn sgîl y cynnydd mewn gordewdra a chost trin clefydau cronig cysylltiedig. Rydym yn gweld buddsoddiad nas gwelwyd ei fath o’r blaen yn ein hamgylchedd adeiledig, ond bydd mwy o weithio ar draws adrannau’r llywodraeth genedlaethol, ynghyd â gwell cydgysylltiad rhwng ymddiriedolaethau gofal sylfaenol ac awdurdodau lleol yn hanfodol os ydym am wneud y gorau o’r cyfle unigryw hwn.”
(Briff ar Weithgaredd Corfforol a’r Amgylchedd Adeiledig, CABE, Hydref 2006)
